kowydd ir seren am ddangos y ffordd i fynd at forfydd
1 digio irwyf am ail ewyn
2 dvw a wyr meddwl pob dyn
3 o daw arnaf oi chariad
4 fenaid glaer fyned yw gwlad
5 pell yw im bryd ddirprwyaw
6 llatai drvd yw llety draw
7 na rhoi gwerth i wrach serth swydd
8 orllwyd taer er llateirwydd
9 na dwyn im kylch danllestri
10 na ffyst kwyr pen fo hwyr hi
11 dros gysgv y dydd gartref
12 A cherdded nos dros y dref
13 nim gwyl neb nim adnebydd
14 ynfyd wyf oni fo dydd
15 mi a gaf yn ddiwrafvn
16 rhag didro heno fy hvn
17 kanhwyllav r gwr biav r byd
18 im hebrwng at em hoywbryd
19 bendith ar enw'r kreawdner
20 a wnaeth saerniaeth y ser
21 hyd nad oes dim olevach
22 nar seren gron bvrwen bach
23 kanaid or vchel geli
kanwyll or vchel geli
24 kanwyll ehwybr bwyll yw hi
25 [369] ni ddiffoddan y ganwyll
26 ai dwyn ni ellir o dwyll
27 nis diffydd gwynt hynt hydref
28 afrlladen o nen y nef
29 nis bawdd dwfr llwfr llifeiriaint
30 desgwilwraig desgil saig ysaint
31 ni ddeil lleidr ai ddwylaw
32 gwaelawd kawg y drindawd draw
37 gwir fwkled y golevni
38 gwalabr havl gloyw wybr yw hi
35 golav yw ymhob ardal
36 goldvn o avr melyn mal
39 hi a ddengys ym heb gvdd
40 em evrfalch lle mae morfvdd
41 krist or lle mae ai diffydd
42 ag ai gyr nid byr y bydd
43 gosgedd torth gan gyfan gv
44 i gysgod wybr i gysgv
dafydd ap gwilym